|
Ymunwch â ni
Heb gefnogaeth ein haelodau, ni fyddai modd
inni weithio er budd byd natur. Ymunwch â ni
a helpwch ni i ofalu am ein gwarchodfeydd
natur, dewch i ymgyrchu dros fywyd gwyllt,
ac ysbrydolwch bobl o bob oed trwy danio’u
brwdfrydedd ynghylch harddwch a hud eu
hamgylchedd lleol.
Dewch i wirfoddoli
Mae eich amser yn werthfawr dros ben inni!
Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan
amhrisiadwy yng ngwaith yr Ymddiriedolaethau.
Ni cheir cyfyngiad o ran oed, ac fe allwn
ddod o hyd i rywbeth i blesio pawb – pa un a
ydych eisiau helpu i reoli ein gwarchodfeydd
neu weithio mewn swyddfa. Mae croeso ichi
gysylltu â’r Ymddiriedolaeth agosaf. Fe
fyddwn wrth ein bodd yn clywed gennych. Gwnewch Ewyllys er budd byd natur
Dylai pawb wneud Ewyllys. Rydym yn gwybod
o’r gorau y dylem wneud un, ond mae un o bob
pedwar ohonom yn ei gadael yn rhy hwyr. Mae
cael ewyllys glir y gallwch ei diweddaru yn
ystod eich oes yn hanfodol os ydych eisiau
i’ch dymuniadau gael eu parchu. Pam na
wnewch chi sicrhau tawelwch meddwl i chi’ch
hun trwy roi trefn ar eich pethau. Ac wrth
wneud hynny, gallwch helpu eich
Ymddiriedolaeth Natur leol i barhau i
warchod bywyd gwyllt. Cofiwch gynnwys eich busnes Gall eich busnes helpu i warchod byd natur. I gael mwy o fanylion am ein cynllun cyfranogiad corfforaethol, edrychwch ar www.wildlifepartnerships.org neu anfonwch e-bost at ein Rheolwr Datblygu Partneriaethau AmyMulkern@wildlifetrustswales.org.
|
||