Cysylltau

Mae Partneriaeth yr Ymddiriedolaethau Natur yn cynnwys 47 o Ymddiriedolaethau sy’n ymdrin â phob rhan o’r DU, ynghyd ag Ynys Manaw ac Alderney.

Partneriaethau Natur Cymru yw cynllun aelodaeth gorfforaethol Ymddiriedolaethau Natur Cymru.

Cyngor Cefn Gwlad Cymru yw cynghorwr statudol y Llywodraeth ar gynnal harddwch naturiol a bywyd gwyllt yng Nghymru.

Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn dod â sefydliadau’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol ynghyd i hyrwyddo a monitro bioamrywiaeth.
 

Y Sea Trust yw grŵp morol Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.

Mae gan Yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad yn Llywodraeth Cynulliad Cymru ei gwefan ei hun.

Partneriaeth yn y sector gwirfoddol yw Amgylchedd Cymru, a chaiff ei noddi gan Lywodraeth y Cynulliad.

Y Peunog. Photo: D. Maw
Y Peunog © D. Maw

Mae’r Joint Nature Conservation Committee (JNCC) yn cynghori Llywodraeth y DU ar bynciau cenedlaethol a rhyngwladol yn ymwneud â chadwraeth a bywyd gwyllt.

Rhwydwaith ar gyfer sefydliadau anllywodraethol gwirfoddol yn ymwneud â’r amgylchedd a chefn gwlad yw Cyswllt Amgylchedd Cymru.