|
Mae’r chwe
Ymddiriedolaeth Natur sydd i’w cael
yng Nghymru yn gweithio gyda’i
gilydd er mwyn ceisio cynnig
amgylchedd sy’n doreithiog o fywyd
gwyllt i bawb. Rhyngom, mae gennym
25,000 o aelodau ac rydym yn rheoli
230 o warchodfeydd natur yng Nghymru.
Mae’r gwarchodfeydd yma’n cynnwys
6,000 hectar a mwy o gynefinoedd
gwych i fywyd gwyllt, gan amrywio o
arfordiroedd geirwon i hafanau byd
natur mewn ardaloedd trefol.
Rydym yn rhan o
bartneriaeth yr Ymddiriedolaethau
Natur ac mae gennym fwy na 750,000 o
aelodau ar hyd a lled y DU. Rydym yn
rheoli tir, yn ymgyrchu dros fyd
natur, yn cynnig cyngor, ac yn mynd
i’r afael â gwaith addysgol amrywiol
a chyffrous, gan danio brwdfrydedd
pobl ynghylch byd natur.
Mae
Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn
gweithio gyda’i gilydd, gan
weithredu’n lleol er budd bywyd
gwyllt yr ardal. I ddod o hyd i’ch
Ymddiriedolaeth Natur leol ar y map,
cliciwch yma. I gael mwy o wybodaeth
am y gwaith a wnawn ar hyd a lled
Cymru, edrychwch ar wefannau'r
Ymddiriedolaethau lleol:
|
 |